Adeilad cyhoeddus newydd yng nghanol dinas Abertawe yn llwyddiant cynnar

Mae staff ac ymwelwyr â hwb cymunedol newydd yng nghanol dinas Abertawe wrth eu bodd â’r profiad o fod yno.

Ers i’r Storfa agor ddeufis yn ôl, mae miloedd o bobl wedi ymweld â’r lleoliad ac mae’n parhau i fod yn brysur bob dydd.

Mae pobl sy’n mwynhau treulio amser yn y lleoliad wrth gyffordd Stryd Rhydychen a Princess Way yn dweud bod eu bod yn hoffi lleoliad yr adeilad yng nghanol y ddinas, ei fannau agored croesawgar a’i olwg modern.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, “Rydym wrth ein bodd bod adborth y cyhoedd a staff am Y Storfa o’r wythnosau cynnar wedi bod mor gadarnhaol.”

Meddai Jean Blair o grŵp cymdeithasol Mentro Allan sy’n cwrdd yn rheolaidd yn Y Storfa, “Rydym yn mwynhau cwrdd yma’n fawr. Mae gan Y Storfa staff croesawgar, digon o le cyfforddus ac mae mewn lleoliad canolog.”

Grwp cymdeithasol Mentro Allan

Meddai Sian Williamso Lyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe sydd bellach yn Y Storfa, “Rydym mewn lleoliad sy’n hawdd ei gyrraedd yma, ac rydym wrth ein bodd gyda nifer y bobl sydd wedi galw heibio, ac sy’n parhau i wneud hynny. Rydym ar agor i bawb ac mae’n wych croesawu amrywiaeth o ymwelwyr.”

Meddai Judith Porch, Cydlynydd Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes y cyngor, “Mae cael cynifer o wasanaethau mewn un lle yn Y Storfa yn dod â phobl ynghyd.

“Mae’n wych ar gyfer cefnogi ein dysgwyr, ac rydym wedi gweld diddordeb enfawr yn ein dosbarthiadau dysgu gydol oes yn Y Storfa.”

Mae Andrea Jones, un o weithwyr y cyngor, yn treulio oddeutu pedwar neu bum niwrnod yn gweithio yn Y Storfa bob wythnos.

Meddai’r Uwch-swyddog Refeniw a Budd-daliadau, “Mae’r Storfa wedi ei gwneud hi’n hawdd i gwsmeriaid gael mynediad at lawer o wasanaethau mewn un lle. Mae’n ei gwneud hi’n llawer mwy cyfleus bod yn yr un lleoliad.”

Ychwanegodd y Cyng. Stewart, “Mae miloedd o bobl eisoes wedi mwynhau’r hyn sydd gan Y Storfa i’w gynnig. Mae pobl yn hoffi bod y lleoliad yn hygyrch a’i fod yn cynnig cymysgedd o wasanaethau hanfodol a ddarperir gan y cyngor a sefydliadau allweddol eraill.

“Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr ymwelwyr o’i gymharu â lleoliadau blaenorol a ddefnyddiwyd gan y gwasanaethau yno, ac mae’r Storfa wedi parhau i fod yn brysur yn y flwyddyn newydd.

“Rwy’n annog pawb i alw heibio a mwynhau’r hyn sydd ar gynnig yno!”

Mae gwasanaethau’r cyngor fel y brif lyfrgell ganolog a’r llyfrgell i blant wedi bod yn brysur ers adleoli i’r adeilad a oedd unwaith yn gartref i siop BHS.

Ym mis Rhagfyr, gwelwyd cynnydd o fwy na 670 yn nifer aelodau newydd y llyfrgell ganolog, sy’n fwy na thair gwaith yn uwch na’r cyfartaledd misol. Mae nifer yr eitemau a fenthycwyd gan y tîm plant yn uwch na’r arfer.

Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru, sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol Abertawe, a’r tîm lleol o Gyngor ar Bopeth ymhlith y rhai sy’n gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr. Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a swyddfa Gyrfaoedd Cymru ymhlith y gwasanaethau lleol eraill sy’n parhau i fod yn brysur.

Fel rhan o raglen adfywio gwerth £1bn Cyngor Abertawe, mae’r adeilad yn dod â phobl i ganol y ddinas, gan roi hwb i fusnes masnachwyr cyfagos.

Mae’n agos at gannoedd o leoedd parcio ceir.

Cyflwynwyd Y Storfa gan y cyngor. Mae arianwyr y prosiect yn cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. 

Diolch i Gyngor Abertawe am y stori newyddion a’r lluniau.

Mae digonedd ar gael drwy eich llyfrgell

Mae llyfrgelloedd yn fwy na llyfrau. Archwiliwch ein hamrywiaeth o wasanaethau.

eLyfrau ac eLyfrau llafar